Uchelgais Ymddiriedolaeth Feicio Geraint Thomas yw helpu pob person ifanc i gymryd rhan mewn beicio a mwynhau ysbryd y gamp, waeth beth fo’u hamgylchiadau unigol. Wrth i’r Ymddiriedolaeth dyfu, bydd angen cefnogaeth arnom fel y gallwn barhau i gyrraedd ein nodau a’n targedau.
Mae Geraint yn angerddol dros roi rhai o’r un profiadau a gafodd ef i’r genhedlaeth iau yng Nghymru a’r DU. Mi fydd cefnogaeth gan aelodau’r cyhoedd, darpar bartneriaid ac eraill yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr wrth i’r Ymddiriedolaeth fynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Felly, sut allwch chi helpu?
Yn syml iawn, fe allwch chi helpu mwy o bobl ifanc i fwynhau’r hwyl a’r rhyddid sydd i’w gael gyda beicio. A phwy â ŵyr, efallai y gwnawn ni ddarganfod mwy o bencampwyr fel Geraint, yn fechgyn ac yn ferched. Ond heb ein help ni, wnawn ni fyth wybod…
Bydd codi arian i’r Ymddiriedolaeth yn allweddol i helpu cyflawni uchelgeisiau Geraint. Bydd gweithgareddau a digwyddiadau codi arian yn cynnwys:
• Digwyddiad lansio cychwynnol
• Taith cwrdd a chyfarch gyda ‘G’
• Cinio ac ocsiwn flynyddol
• Nawdd corfforaethol
Y cyfan yr ydym ni angen i chi ei wneud nawr yw cofrestru’ch diddordeb mewn cefnogi’r Ymddiriedolaeth trwy e-bostio: info@GTCT.co.uk.
Pan fydd amserlen lawn o ddigwyddiadau’n cael ei chyhoeddi, byddwn mewn cysylltiad i drafod sut y gallwch helpu.
Fel arall, gallwch anfon nodyn i Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Adrian@GTCT.co.uk i drefnu sgwrs anffurfiol.
Cyfryngau cymdeithasol
Ffordd arall y gallwch chi ymwneud ag Ymddiriedolaeth Feicio Geraint Thomas, yw trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn rhannu cynnwys rheolaidd am yr Ymddiriedolaeth a sut y byddwn ni’n helpu’r genhedlaeth iau i fwynhau beicio.
Gallwch ein dilyn ar y platfformau canlynol:
- Facebook – @gtcyclingtrust
- Instagram – @gtcyclingtrust
- Twitter – @gtcyclingtrust