Mae yna sawl unigolyn dylanwadol ac ymroddedig sydd wedi helpu sefydlu Ymddiriedolaeth Feicio Geraint Thomas (GTCT).
Adrian Coles
Bancwr profiadol yn ôl ei broffesiwn, wedi treulio bron 17 mlynedd yn gweithio mewn bancio masnachol a chorfforaethol ar gyfer NatWest Group tan fis Ionawr 2023, gyda newid gyrfa daeth Adrian yn Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni newydd ym maes dysgu eDdysgu, Academii Ltd sydd yn helpu i weddnewid dysgu mewn lleoedd Gwaith.
Mike Leeson
Mae Mike wedi gweithio yn y byd hysbysebu ers dros 30 mlynedd, gan ddechrau ei yrfa gyda Grŵp Saatchi cyn ymuno â Golley Slater yng Nghaerdydd yn 1995. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mae llawer o’i waith wedi bod yn gweithio ar ddatrys problemau busnes strategol a chyfathrebu sylweddol i gleientiaid mor amrywiol â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y Fyddin Brydeinig, Mitsubishi Motors (DU ac Ewrop), Trafnidiaeth Cymru, a Velothon.
Darren Tudor – Prif Hyfforddwr Beicio Cymru
Mae Darren wedi bod ar ddwy olwyn ers yn ifanc iawn a byth ers hynny mae seiclo wedi chwarae rhan enfawr yn ei fywyd. Wrth fentro i’r gamp drwy strwythur y clwb yng Nghymru ac yna i gystadlu, mae’n deall yn uniongyrchol yr heriau sy’n wynebu teuluoedd oherwydd amgylchiadau ariannol ei deulu ei hun oedd yn gwneud hi’n anodd iawn i’w rieni gefnogi ei uchelgeisiau beicio. Ar ôl blynyddoedd lawer o rasio, bu Darren yn ddigon ffodus i’w wneud yn broffesiwn ac ar ôl 20 mlynedd mae wedi gweld y gamp o ongl wahanol a’r gwahanol rwystrau y mae’n rhaid i bobl eu goresgyn i gymryd rhan mewn beicio.
Chris Landon
Mae gan Chris 20 mlynedd o brofiad fel gwirfoddolwr gyda Seiclo Cymru, fel: Trefnydd Digwyddiadau, Commissaire, Aelod o’r Bwrdd, Cadeirydd, Gwirfoddolwr Cymorth Ras. Gwirfoddolwr gyda British Cycling (trwy wahoddiad): Aelod o’r Grŵp Cynghori Risg, aelod o’r Comisiwn Ffyrdd (nawr yn Gadeirydd) ac aelod o Grŵp Gweithio Rheolau Technegol. Mae wedi gweithio i GE Healthcare am ~ 35 mlynedd mewn rolau amrywiol, gan gynnwys Rheolwr Prosiect, Lean Six Sigma Black Belt, Rheolwr Gweithgynhyrchu a Master Production Scheduler (Rheolwr Cynllunio).
Caroline Spanton – Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru
Cefndir Caroline yw datblygiad a rheolaeth chwaraeon gyda dros 25 mlynedd o brofiad mewn diwydiant. Mae hi’n frwd dros reoli chwaraeon brwdfrydig ac egnïol ac mae ganddi brofiad o weithio o fewn gwasanaethau hamdden mewn dwy ardal awdurdod lleol mawr, gyda Chwaraeon Cymru yn arweinydd datblygu rhanbarthol, fel Cadeirydd Bwrdd Rhwyfo Cymru ac mewn uwch swyddi gweithredol mewn sawl Corff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol gyda phroffil uchel. Mae hi’n hoff iawn o awyr agored Cymru ac mae ganddi fab 2 oed â’i hoff beth iddo wneud ta beth y tywydd yw ei feic balans!
Arwel Lewis
Mae gan Arwel dros 20 mlynedd o brofiad fel cyfreithiwr ac mae wedi gweithio yn y DU ac yn Asia ar materion corfforaethol a masnachol. Mae’n angerddol am chwaraeon gyda seiclo a rygbi ar ben rhestr hir o obsesiynau chwaraeon! Mae’n falch iawn o fod yn rhan o’r Ymddiriedolaeth ac yn mwynhau’r rhyngweithio â phob lefel o’r gymuned seiclo.
Rhodri Lewis
Mae Rhodri yn uwch Weithredwr gyda dros ugain mlynedd o brofiad yn gweithio mewn rolau cyfreithiol a masnachol. Mae wedi gweithio yn Llundain, Asia a’r Swistir cyn dychwelyd i Gymru ac ers 2005 mae wedi gweithio i gyrff llywodraethu ym mhêl-droed a rygbi’r undeb. Yn siaradwr Cymraeg mamiaith, mae hefyd yn Llywodraethwr Ysgol, yn Llysgennad i Aspiring Solicitors (mudiad sydd wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant ar draws yr holl grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y proffesiwn cyfreithiol) ac yn aelod o Fwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau yr Urdd. Yn ei amser hamdden, mae’n hyfforddi rygbi a phêl-droed.
Christine Gibbons
Mae Christine wedi gweithio yn y GIG am 37 o flynyddoedd fel clinigwr a swyddog gweithredol. Wyth mlynedd yn ôl cymerodd swyddi ymddiriedolwyr mewn elusennau sy’n cefnogi cyfranogiad torfol gan gynnwys ymddiriedolaethau hamdden, ParkRun global, Cycling UK ac Accesssport. Mae hi hefyd yn aelod o Gyngor Prifysgol Caerfaddon. Treulia ei hamser hamdden yn hyfforddi yn nhair disgyblaeth triathlon.
Owen Hathway
Owen yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi, Materion Cyhoeddus a Buddsoddiadau Cymunedol Chwaraeon Cymru. Yn y rôl hon mae’n goruchwylio gwaith ymchwil y sefydliadau, yn ogystal â bod yn gyfrifol am ddosbarthu arian Llywodraeth Cymru a Loteri i glybiau a grwpiau cymunedol ym mhob cornel o Gymru. Y tu allan i’r swydd, mae’n cyd-gadeirio bwrdd rheoli strategol Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru. Cyn ymuno â Chwaraeon Cymru, roedd gan Owen angerdd am y rôl mae chwaraeon yn gallu cyflawni mewn addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc, sy’n deillio o’i amser yn arwain y gwaith polisi, cysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer yr undeb athrawon mwyaf y DU.