Geraint Thomas oedd enillydd y Tour de France yn 2018 ac mae e’n bencampwr Olympaidd dwbl.
Nid camgymeriad mo’r uchod, dyna beth yw e! Mae e hefyd yn arwr o Gymru sydd â breuddwydion mawr, fel y dywedodd ar y Champs-Elysées wrth wisgo’r crys melyn.
Mae gan Gymru enw fel gwlad sy’n cynhyrchu arwyr chwaraeon sy’n ysbrydoliaeth i’r bobol, ac mae Geraint yn un ohonynt. Mae beicwyr ledled y wlad wedi’i ddilyn wrth iddo dyfu i fod yn un o arwyr chwaraeon poblogaidd Cymru. Mae ei lwyddiannau ar ddwy olwyn yn anhygoel – fe oedd y Cymro cyntaf i ennill y Tour yn 2018 ac mae ganddo deitl pencampwr Olympaidd dwbl yn ogystal â llawer mwy o fuddugoliaethau.
Ond mae ei gampau oddi ar y beic yn haeddu cydnabyddiaeth hefyd. Yn ystod y pandemig COVID yn 2020, ymgymerodd Geraint â thri shift Zwift yn olynol ar ei feic turbo yn garej ei gartref yng Nghaerdydd, a hynny i godi dros £375,000 ar gyfer Arwyr y GIG yng Nghymru.
Ei bersonoliaeth oddi ar y beic sydd wedi gwneud G yn seren chwaraeon mor hoffus. Erbyn hyn, mae’n arwain Ymddiriedolaeth i hwyluso mynediad a chyfleoedd i fwy o bobl ifanc ymgymryd yn y gamp sydd wedi rhoi cymaint iddo fe.
Dyma’r dyn ei hun i ddweud y cyfan wrthoch chi am yr Ymddiriedolaeth.